Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Awst 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo. Ar
ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi
penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D,
yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau
electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog
34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y
Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd
cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol.
1 Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)
(45 munud)
2 Aelodaeth Pwyllgorau
(5 munud)
NDM7361 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM7362 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM7363 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7364 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7365 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7366 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle David Melding (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7367 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig).
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (cyfanswm o 30 munud)
3 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
NDM7358 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2020.
Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020
NDM7359 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.
Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
5 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
NDM7360 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020.
Dogefennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
6 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 26 Awst 2020